Gwrandewch
Ailysgrifennu'r rheolau, un prosiect ymchwil ar y tro
Mae ymchwil yn PDC yn gwneud gwahaniaeth yn y byd go iawn, gan newid ein bywydau a’n byd er gwell. Rydym ar flaen y gad yn Ewrop gyda gwaith arloesol yn datblygu cynlluniau ynni cynaliadwy, ac rydym yn gweithio gyda’r enwau mwyaf yn y diwydiant modurol i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o systemau ynni carbon isel.
Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF2014) diweddaraf, cafodd hanner ein hymchwil ei ystyried gyda’r gorau yn y byd neu yn wych yn rhyngwladol, gan gynnig atebion ymarferol ym meysydd diwylliant, cymdeithasol a’r economi.
Cyfres Podlediad 60 Eiliad
O ffermio dwys i laddiadau corfforaethol, olew palmwydd i ymwrthedd i wrthfiotigau, mae’r podlediad Sylw Chwedeg Eiliad yn cynnig cipolwg ar yr ymchwil arloesol sy’n cael ei gynnal ym Mhrifysgol De Cymru. Ym mhob pennod cewch gipolwg ar wahanol feysydd ymchwil, maen nhw’n werth eu clywed pan fyddwch yn brysur! Gwrandewch nawr!
Podlediad Newid Rheolaeth
Bydd Podlediad Newid Rheolaeth, a gyflwynir gan Dr Louise Bright, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Ymgysylltu Busnes PDC, yn rhoi cyfle unigryw i chi glywed arweinwyr syniadaeth PDC sydd wrth y llyw yn cefnogi sefydliadau i ddatrys eu problemau busnes.
Mae’r podlediadau’n cynnwys gwesteion arbennig a fydd yn cynnig eu sylwadau gonest am eu profiadau o newid, yr effaith a gafodd arnyn nhw eu hunain, eu timau a’u sefydliadau. Felly, os ydych am ddysgu mwy am strategaeth ailfeddwl neu am gael cyngor arbenigol ar sut i greu diwylliannau gwydn, y newyddion da yw y gallwch wrando ar y chwe phennod gyntaf nawr!
Diddordeb mewn dyfodol ym maes ymchwil PDC?
Diddordeb mewn dyfodol ym maes ymchwil PDC? Trefnwch i gael gair â ni ynghylch astudiaeth bellach ac archwiliwch effaith ein harbenigedd ymchwil gyfredol.