Gwyliwch
Gyda ffigurau diweddaraf 2020 gan Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig yn adrodd bod 1 y cant syfrdanol o ddynoliaeth wedi'i dadleoli ar hyn o bryd; yma yng Nghymru, mae Pencampwr Ffoaduriaid PDC, Dr Mike Chick, yn arwain yr ymateb wrth helpu mewnfudwyr gorfodol a gyrhaeddodd yn ddiweddar i gyflawni eu potensial.
Gwyliwch
Gyda ffigurau diweddaraf 2020 gan Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig yn adrodd bod 1 y cant syfrdanol o ddynoliaeth wedi'i dadleoli ar hyn o bryd; yma yng Nghymru, mae Pencampwr Ffoaduriaid PDC, Dr Mike Chick, yn arwain yr ymateb wrth helpu mewnfudwyr gorfodol a gyrhaeddodd yn ddiweddar i gyflawni eu potensial.
Fel Pencampwr Ffoaduriaid PDC, mae Mike yn rheoli ac yn cynghori ar y gefnogaeth y gall ffoaduriaid ei chael gan y Brifysgol, ac yn hyrwyddo Cynllun Noddfa Ffoaduriaid PDC, sy’n darparu cefnogaeth i nifer gyfyngedig o ffoaduriaid cymwys i gael mynediad at sesiynau ymbaratoi Saesneg am ddim cyn dechrau cwrs israddedig.
Dr Mike Chick
Mae ei ymchwil i ddarpariaeth ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) ar gyfer ymfudwyr gorfodol wedi mynd i’r afael â’r heriau a wynebir wrth ailsefydlu teuluoedd ffoaduriaid mewn ardaloedd yng Nghymru lle nad oes gan awdurdodau lleol lawer o brofiad o ddarparu rhaglenni addysg iaith.
Mae ei gydweithrediad arloesol â Chyngor Ffoaduriaid Cymru wedi arwain at athrawon iaith dan hyfforddiant yn y Brifysgol yn cyflwyno dosbarthiadau iaith Saesneg yn seiliedig ar anghenion bywyd go iawn y myfyrwyr ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae wedi cael effaith newid-bywyd ar y myfyrwyr a’r dysgwyr.
“Mae’r cydweithrediad â Chyngor Ffoaduriaid Cymru wedi golygu bod ein myfyrwyr wedi dysgu, ac wedi dod i adnabod, cannoedd o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, gyda llawer ohonynt yr un oed â nhw. Maent wedi dod i’w hadnabod fel pobl gyfartal – nid fel y bobl gythreulig sy’n achosi problemau, a bortreadir mor aml gan y cyfryngau prif ffrwd,” meddai Dr Chick.
Fel rhan o’r cydweithrediad hwn, mae Dr Chick yn cynghori ar y ddarpariaeth ESOL a ddarperir ar hyn o bryd ym mhencadlys Cyngor Ffoaduriaid Cymru yng Nghaerdydd.
Manylwyd ar ei fodel yn Addysg Uwch a Chydweithrediad y Sector Gwirfoddol ar gyfer Darpariaeth ESOL yn Adroddiad yr Academi Brydeinig ar gamau gweithredu lleol i hyrwyddo cydweithrediad cymdeithasol. Enillodd y wobr am yr Effaith Gymdeithasol Orau yng Ngwobrau Effaith PDC 2019 a gwobr 2016 y Sefydliad Dysgu a Gwaith am y Prosiect Cymunedol Gorau.
Ym mis Mawrth derbyniodd y Brifysgol statws Prifysgol Noddfa a daeth yn yr ail sefydliad AU yn unig yng Nghymru i dderbyn y dyfarniad hwn. Mae statws Prifysgol Noddfa yn cydnabod ymrwymiad PDC i greu diwylliant o groeso i bobl sy’n ceisio noddfa o fewn, a thu hwnt, i’w champysau.