Gwyliwch
Wrth i’r byd barhau i gael ei siglo gan effaith feddygol, economaidd a chymdeithasol pandemig COVID-19, rydyn ni’n taflu goleuni ar rhai o’r ffyrdd trawsnewidiol y mae aelodau o’n cymuned yn y Brifysgol wedi ymateb i’r her fyd-eang na welwyd ei thebyg o’r blaen.
Gwyliwch
Wrth i’r byd barhau i gael ei siglo gan effaith feddygol, economaidd a chymdeithasol pandemig COVID-19, rydyn ni’n taflu goleuni ar rhai o’r ffyrdd trawsnewidiol y mae aelodau o’n cymuned yn y Brifysgol wedi ymateb i’r her fyd-eang na welwyd ei thebyg o’r blaen.
Ymchwilwyr PDC yn datblygu prawf canfod cyflym
Dr Jeroen Nieuwland a Dr Emma Hayhurst (Tystysgrif Ôl-raddedig, 2017) yn addasu techneg y buont yn ei datblygu ers 2016 ar gyfer haint y llwybr wrinol.
Covid yn gorfodi symud i faes rheoli er mwyn helpu i gyfyngu’r pandemig
Mae Dr Yemi Adeyemi (MSc Iechyd y Cyhoedd, 2014) Meddyg Preswyl Ysbyty Addysgu Athrofaol Olabisi Onabanjo, Nigeria, yn rhannu mwy am yr ymateb i COVID-19 yn ei hardal hi, ac mae’n ystyried ymhellach y modd y gwnaeth ei chymwysterau ôl-radd ei helpu i ymdrin â’r pandemig.
Mae rheoli ac addasu cadwyn gyflenwi’r GIG wedi bod yn hanfodol i gefnogi gwasanaethau rheng flaen critigol
Mae Andrew Roberts (BSc (Anrh) Rheolaeth Logisteg a Chadwyn Gyflenwi, 2018) yn crynhoi’r modd y llwyddodd cadwyn gyflenwi’r GIG ymdopi pan oedd y pandemig yn ei anterth ac mae’n amlinellu’r modd y gwnaeth y gweithlu addasu i ymdrin â’r heriau a’r galwadau gan y diwydiant gofal iechyd.
Ymchwilwyr PDC yn datblygu monitor ocsigen gwaed arloesol
Yr Athro Nigel Copner a Dr Xiao Guo (PhD, 2016) yn egluro mwy am yr ocsifesurydd pwls.
Rydym yn diolch i chi os roddoch o’ch amser i gymeradwyo gweithwyr y rheng flaen bob wythnos – yn cynnwys gymaint o’n myfyrwyr oedd yn ymuno â’r gweithlu fel nyrsys am y tro cyntaf – neu efallai eich bod wedi gwirfoddoli’ch amser drwy ymgysylltu ar-lein fel Gwirfoddolwr PDC, gan helpu i ysbrydoli ein myfyrwyr presennol wrth iddynt ystyried eu camau nesaf yn y farchnad waith anodd.
Rydym yn ddiolchgar i chi os oeddech yn un o’n Cyfeillion Ffôn PDC a fu’n gefn mawr i helpu’n myfyrwyr tramor a oedd wedi’u dal yn y DU ar ddechrau’r pandemig, ac rydym yn diolch i chi os ydych yn parhau i fynd ymhell uwchlaw eich proffesiwn er mwyn cadw olwynion normalrwydd i droi – rydym mor falch ohonoch i gyd. Daliwch ati.
Dr Emma Hayhurst (Tystysgrif Ôl-raddedig, 2017)
Cadwch mewn cysylltiad â’r modd y mae Prifysgol De Cymru a’i chymuned yn parhau i ymateb i heriau Coronafeirws:
Sut mae alumni wedi ymateb i COVID-19
Cyfraniad y Brifysgol i’r frwydr yn erbyn COVID-19
Ymateb a chyngor swyddogol y Brifysgol
Cysylltwch â Ni
Os ydych yn rhan o Deulu PDC ac yn parhau i ymwneud â’r ymateb yn erbyn Coronafeirws, hoffem i chi gysylltu â ni. E-bostiwch alumni@southwales.ac.uk i’n helpu i roi sylw i’ch gwaith a’r effaith rydych yn ei gael.