Cyhoeddiad
Darllenwch
Gwyliwch
Gwrandewch

Cadw i fyny gyda … Yr Athro Fiona Brookman

Mae Fiona Brookman yn raddedig ac yn Athro Troseddeg ym Mhrifysgol De Cymru. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad mewn addysgu ac ymchwil ym meysydd dynladdiad, trais ac ymchwilio i droseddau mawr.

Cadw i fyny gyda … Yr Athro Fiona Brookman

Play

Mae Fiona Brookman yn raddedig ac yn Athro Troseddeg ym Mhrifysgol De Cymru. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad mewn addysgu ac ymchwil ym meysydd dynladdiad, trais ac ymchwilio i droseddau mawr.

Gadewais yr ysgol gyda dim ond rhai lefelau ‘O’. Erioed roeddwn i wedi eisiau bod yn athrawes ysgol gynradd ond heb lawer o gymwysterau, penderfynais fynd i Goleg Technegol Pontypridd yn lle hynny gyda fy ffrind gorau, a hyfforddi i fod yn ysgrifenyddes feddygol. Yn ddiweddarach, pan oeddwn yn gweithio fel ysgrifenyddes, astudiais Seicoleg Safon Uwch mewn dosbarthiadau nos ac wedi hynny (yn 22 oed) symudais ymlaen i raglen gradd Gwyddorau Ymddygiad ym Mhrifysgol De Cymru (Polytechnig Cymru ar y pryd).  Roeddwn i wrth fy modd, yn enwedig yn y flwyddyn olaf pan gymerais opsiwn troseddeg. Roeddwn i wedi gwirioni ac felly es ymlaen i astudio ar gyfer MSc ac yna PhD mewn Troseddeg, ym Mhrifysgol Caerdydd. 

Rwyf wedi cael gyrfa gyffrous. Rwyf wedi cyfweld â llofruddwyr a throseddwyr treisgar eraill (e.e. lladron stryd) yn ogystal â lladron a dioddefwyr byrgleriaeth ac wedi cysgodi ditectifs dynladdiad wrth iddynt chwilio am, a chyfweld, pobl dan amheuaeth a thystion, a mynychu treialon llofruddiaeth a phost-mortemau.  Rwyf wedi dilyn ditectifs trwy eu hyfforddiant Uwch Swyddog Gwybodaeth yn y DU ac wedi treulio amser yn ‘hongian allan’ gyda ditectifs ar ddwy ochr Môr yr Iwerydd – dod i adnabod sut maen nhw’n meddwl a beth sy’n gwneud iddyn nhw weithio oriau mor hir i ddod â lladdwyr o flaen eu gwell. Mae rhai pethau’n aros gyda chi am gyfnod hir. Er enghraifft, ni fyddaf byth yn anghofio’r amser a dreuliais gyda ditectifs yn oriau mân y bore yn America yn mynd ar drywydd rhywun a ddrwgdybir o lofruddiaeth â gwaetgi, neu’r amser y bûm yn y llys lle’r oedd tyst benywaidd dewr i ddynladdiad yn cael ei chyfweld am y tro cyntaf gan yr erlynydd a ditectifs am yr hyn roedd hi’n ei wybod – er ei bod hi’n peryglu ei bywyd ei hun trwy helpu’r heddlu. 

Cefais fy ysbrydoli gan fy narlithydd David Smith, y person cyntaf i’m cyflwyno i droseddeg. Roedd ei ddarlith gyntaf yn ymwneud â ‘ffigur tywyll’ trosedd – hynny yw, y drosedd nad ydym yn gwybod amdani oherwydd nad yw’n cael ei riportio i’r heddlu gan y cyhoedd nac wedi’i chofnodi gan yr heddlu. Mae’r ystadegau troseddol ‘swyddogol’ yn ddiffygiol ac yn rhoi darlun rhannol wrthym am droseddu oherwydd ni fydd llawer o bobl yn riportio trosedd am wahanol resymau (e.e. ofn, embaras, atgasedd neu ddiffyg ymddiriedaeth yn yr heddlu neu efallai hyd yn oed am nad ydyn nhw’n ymwybodol bod trosedd wedi digwydd – e.e. yn achos twyll neu hyd yn oed gam-drin rhywiol). 

Rwyf wrth fy modd â’r hyn rwy’n ei wneud. Mae’n amrywiol ac wrth gwrs mae trosedd yn esblygu o hyd.  Er enghraifft, oherwydd datblygiadau sylweddol mewn technoleg ddigidol, mae’r ffordd y mae ditectifs yn ymchwilio i droseddu wedi newid. Mae’r ffôn symudol yn enghraifft dda. Ymhlith y pethau cyntaf y mae ditectifs yn eu gwneud nawr wrth ymchwilio i ddynladdiad yw chwilio ffôn symudol y dioddefwr ac mae hyn yn aml yn arwain at y llofrudd neu o leiaf eraill sy’n gysylltiedig â’r llofrudd. Yn yr un modd, mae cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y rhai sydd dan amheuaeth oll yn llwybrau rhagorol o ran cliwiau a gwybodaeth i dditectifs.  Nawr mae gennym hefyd oriorau craff, sat nav yn y car, a chlychau drws digidol gyda chamerâu – mae pob un ohonynt yn olrhain ein symudiadau a gallant helpu ditectifs i olrhain troseddwyr neu dystion allweddol. 

Rwy’n falch bod mewnwelediadau o fy ymchwil yn helpu i wella arferion ymchwilio i ddynladdiad. Er enghraifft, atgynhyrchwyd canfyddiadau o fy PhD ar natur ac amgylchiadau dynladdiad yn The British Murder Manual (MIM, 2006) ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio gyda nifer o weithgorau Swyddfa’r Cartref a’r heddlu i wella sut maen nhw’n defnyddio tystiolaeth ddigidol – yn enwedig ffilmiau teledu cylch cyfyng – wrth ymchwilio i ddynladdiad. Y llynedd mynychais Uwchgynhadledd Trais Ieuenctid y Prif Weinidog a rhoddais dystiolaeth i’r Pwyllgor Dethol Ieuenctid ar droseddau cyllyll gan wneud argymhellion yn y ddau ddigwyddiad i helpu i leihau troseddau cyllyll a dynladdiad. 

O ganlyniad i’m hymchwil ac argymhellion, mae person ifanc bellach yn eistedd, am y tro cyntaf, ar Grŵp Gweithredu Diogelwch Cenedlaethol y Swyddfa Gartref ar Drais Difrifol. Mae cynnwys llais pobl ifanc sydd â phrofiad a dealltwriaeth uniongyrchol o drais ieuenctid a gangiau yn eu cymunedau yn bwysig os ydym am ddatblygu strategaethau ystyrlon i fynd i’r afael â thrais a dynladdiad.

Mwy am Droseddeg ym Mhrifysgol De Cymru