Darllenwch
Mae astudio gyda ni yn rhan o gysylltiad gydol oes. Mae’r manteision o fod yn fyfyriwr PDC yn ymestyn y tu hwnt i’ch cymwysterau ac yn parhau yn hirach na’ch cwrs. Fel person graddedig, cewch gyfleoedd dysgu gydol oes, cefnogaeth gyrfa a menter, mentrau cymunedol, rhoddion alumni a mwy.
Darllenwch
Mae astudio gyda ni yn rhan o gysylltiad gydol oes. Mae’r manteision o fod yn fyfyriwr PDC yn ymestyn y tu hwnt i’ch cymwysterau ac yn parhau yn hirach na’ch cwrs. Fel person graddedig, cewch gyfleoedd dysgu gydol oes, cefnogaeth gyrfa a menter, mentrau cymunedol, rhoddion alumni a mwy.
Gwnewch gysylltiadau rhwydweithio mewn digwyddiadau cymunedol
Mae gan alumni PDC fodd i gael mynediad i ddigwyddiadau sy’n cael eu trefnu gartref a thramor drwy gydol y flwyddyn. Er bod Coronafeirws wedi rhoi seibiant ar ein rhaglennu wyneb yn wyneb am y tro, rydym yn edrych ymlaen at gael eich croesawu i ddigwyddiadau yn cynnwys ein Darlithoedd Athrofaol Cyntaf, Cyfres Siaradwyr Dewis Byd-eang, cyfarfodydd Penwythnos Mawr Alumni a llawer mwy pan fydd yn ddiogel i wneud hynny. Yn y cyfamser, ymunwch â ni ar-lein i gael y diweddaraf ar amrywiol weminarau a digwyddiadau rhithiol sydd â’r bwriad o gefnogi busnesau. Awydd trefnu aduniad dosbarth? Cysylltwch, ac fe fyddwn yn falch o’ch cefnogi chi.
Astudio Ôl-raddedig
Mae’n bosibl y bydd gan alumni PDC, yn cynnwys cyn-fyfyrwyr Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Cymru, Casnewydd neu sefydliadau blaenorol, hawl i ostyngiad o 20% oddi ar lawer o gyrsiau ôl-raddedig a ddysgir o gofrestru yn 2020/21. Os ydych am fod yn Feistr ar eich Yfory, yna cymerwch olwg ar ein Llawlyfr Ôl-raddedig, Proffesiynol ac Ymchwil.
Mae telerau ac amodau’n berthnasol. Am fanylion cymhwyster llawn ac i gael mwy o wybodaeth ewch i ar-lein
Datblygiad Proffesiynol
Cyflawnwch Eich Potensial.
O ran addysg a hyfforddiant, rydym yn darparu amrywiaeth o raglenni datblygu, o gyrsiau byr i gymwysterau proffesiynol.
Mae cryfhau eich sgiliau a datblygu eich hunan yn heriol ond yn hanfodol, a dyna pam mae ein cyrsiau a’n dulliau cyflawni yn hyblyg.
Cynigir gostyngiad ffyddlondeb o 10% i raddedigion PDC ar lawer o’n cyrsiau proffesiynol. Cysylltwch i ddysgu mwy drwy ymweld â southwales.ac.uk/business neu e-bostiwch uswcommercial@southwales.ac.uk
Cefnogaeth Gyrfaoedd a Menter
Fel person graddedig gallwch gael cefnogaeth gyrfaoedd am ddim gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. I’r rhai sydd wedi graddio hyd at dair blynedd yn ôl, gallwch barhau i gael cyngor gyrfaoedd un i un a chefnogaeth gwneud ceisiadau hefyd.
Mae cefnogi graddedigion yn cynnwys arfau cyflogadwyedd, cyngor gyrfaoedd personol, bwrdd swyddi a chyfleoedd, rhybudd am swyddi i raddedigion a gwahoddiad i ddigwyddiadau gyrfaoedd.
Yn ystyried llwybr mwy entrepreneuraidd?
Mae ein Tîm Menter a Stiwdio Sefydlu yn cynnig cyfleoedd a mentrau ar gyfer cefnogaeth a mentora un i un drwy gydol y flwyddyn, yn ogystal ag amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithdai rhyngweithiol, gan roi’r hyder i chi gymryd y camau cyntaf i ddechrau eich busnes eich hun.
Defnyddio Gwasanaethau Cynadledda
Mae ein Tîm Cynadledda a Digwyddiadau profiadol wedi bod yn brysur yn canoli gwasanaethau a digwyddiadau ar-lein mewn ymateb i’r pandemig cyfredol ac maent yn parhau i gynnig profiad o’r radd flaenaf er gwaethaf yr heriau anochel.
Os ydych yn chwilio am ateb cost effeithiol i gynnal cynhadledd ar-lein am ddiwrnod cyfan, sesiynau hyfforddi, trafodaethau panel a dyddiau asesu, cysylltwch â ni ar: events@southwales.ac.uk (mail to embedded or actual email?) Gall graddedigion gael gostyngiad o 10% oddi ar unrhyw archeb am ystafell neu gefnogaeth digwyddiad ar-lein.
Pan fydd Llywodraeth Cymru’n caniatáu i ddigwyddiadau byw ailddechrau, bydd y Tîm unwaith eto’n cymryd archebion ar gyfer digwyddiadau busnes, cyfarfodydd, cynadleddau a digwyddiadau teuluol ar bob campws. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma
Cyfleusterau ar y Campws
Fel cyn-fyfyriwr cewch fanteisio ar ostyngiad oddi ar aelodaeth y Ganolfan Adnoddau Dysgu yn ogystal â chael gostyngiad oddi ar aelodaeth y gampfa.
Darllenwch y diweddaraf am holl Fanteision a Gwasanaethau Alumni.